Mae drws ym mwrlwm y dre’, – o’i agor
Gwelwn graig o gyfle
Fel agor llyfr y bore
A geiriau’r iaith yn ffrwd gre’.

Myrddin ap Dafydd, Chwefror, 2025

Croeso I/ WELCOME To

Bys a Bawd Pawb

Ein Nod// Our Aim

Newyddion Cyffrous!

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod Bys a Bawd bellach yn swyddogol yn nwylo’r gymuned — union flwyddyn ers agor y cynnig cyfranddaliadau!

Hoffem ddiolch o galon i:

  • Bawb sy wedi ein cynorthwyo ar hyd y daith (gormod i’w henwi yma)
  • Bawb a fuddsoddodd yn y fenter
  • Y gymuned am gefnogaeth barhaus
  • Y pwyllgor rheoli am eu gwaith caled a’u hymroddiad y tu ôl i’r llenni

Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi pob un ohonoch.

Diolch i Dwynwen Berry

Hoffem ddiolch yn fawr i Dwynwen Berry am ei blynyddoedd o wasanaeth yn y siop. Rydyn ni’n dymuno pob hapusrwydd iddi yn ei hymddeoliad.

Y Camau Nesaf

Bydd y siop ar gau am ychydig ddyddiau tra byddwn yn gwneud trefniadau.
Rydyn ni’n gwybod bod y siop yn bwysig iawn i’r gymuned, ac fe wnawn ein gorau glas i leihau unrhyw anghyfleustra.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth — gyda’n gilydd rydyn ni’n adeiladu dyfodol Bys a Bawd. 

gan griw Bys a Bawd Pawb

Exciting News!

We are very pleased to announce that Bys a Bawd is now officially in the hands of the community — exactly one year since opening the share offer!

A heartfelt thank you to:
• Everyone who has supported us along the way (too many to name here)
• Everyone who invested in the project
• The community for their continued support
• The management committee for their hard work and dedication behind the scenes

We truly appreciate every one of you.

Thank You to Dwynwen Berry

We would like to express our sincere thanks to Dwynwen Berry for her many years of service in the shop. We wish her every happiness in her retirement.

Next Steps
The shop will be closed for a few days while we make arrangements.
We know how important the shop is to the community, and we will do our very best to minimise any inconvenience.

Thank you so much for your support — together we’re building the future of Bys a Bawd. 

from the Bys a Bawd Pawb team